Website of the Duolingo Welsh Learners Facebook group
Website of the Duolingo Welsh Learners Facebook group
Signed in as:
filler@godaddy.com
Roedd pacio ar gyfer y daith hon yn fy atgoffa o fy nheithiau Interrail, fel myfyriwr. Nid bo fi ddim wedi teithio ar drên a choets yn y blynyddoedd diwethaf hefyd. Ond y tro ‘ma, bydd dos ychwanegol o antur. A bach o wersylla. Ac arholiad iaith dramor. Jyst fel y dyddiau 'na. Reit, ‘te. Pasbort - yma. Camera - yma. Tywelion - yma. Bag cysgu - yma. Gobeithio nad wy 'di anghofio dim byd.
Dw i’'n cyrraedd gorsaf Torino Porta Susa yn bell ymlaen llaw. Mae’r trên ar amser a dwi’n ffeindio fy sedd ymysg criw o Barisiaid sy’n mynd nôl adre ar ôl pererindod i bentref y Notre-Dame Miraculeuse des Roses. Yn rhyfedd iawn, mae eglwys a stryd o’r enw “Madonna delle Rose” ychydig flociau i ffwrdd o ble dw i’n byw, ond doeddwn i erioed wedi gwybod y stori, mewn gwirionedd. Byddai fy nghyd-deithwyr yn dadansoddi ac yn trafod pwnc yr holl daith yn angerddol fel galla i ystyried fy hun yn dipyn o arbenigwr erbyn hyn.
Bum awr yn ddiweddarach, dyn ni'n agosáu at ein cyrchfan. Ond tra bo fi’n adolygu pa linell metro fydd yn mynd â fi i Gare du Nord, dyn ni'n dechrau mynd yn arafach ac yn arafach ac yn lle rhedeg i Paris, dyn ni'n stopio mewn cae yng nghanol unman.
Mae llais crechlyd yn esbonio bod stormydd difrifol yn gynharach yn y dydd wedi achosi problem drydanol: bydd angen i ni aros nes eu bod yn tynnu une vache (buwch) o'r ceblau.
O, yn wir am wynt cryf!
“Une vache?” dw i'n gofyn i'r fenyw sy'n eistedd wrth fy ymyl.
“Nooo, une bâche (tarpolin)!” meddai, wrth chwerthin.
O fewn munud, mae’r car cyfan, a rhai o’r staff yn cerdded heibio’n ddamweiniol, yn cellwair a chwerthin am buchod yn hedfan yn isel dros Paris. Falch o fod wedi darparu ychydig o adloniant i'r parti, ac na chafodd unrhyw wartheg eu niweidio yn y broses.
Yn Paris, mae popeth yn mynd yn esmwyth, ac eithrio nad yw'r giât rheoli ffiniau awtomatig yn gadael i mi fynd drwodd. Mae'n digwydd bob hyn a hyn, felly dw i ddim yn becso. Ac yn ffodus mae ciw llawer byrrach a chyflymach o gymharu â meysydd awyr, felly dwi'n cerdded i'r bwth drws nesaf a rhoi fy mhasbort i'r swyddog.
“Do you live in the U.K.?” “No, in Italy”
“xyxyxyx yxyxuxuxyxxxux xxxxyx?”
Fel mae'n digwydd yn aml, yn enwedig pan fod rhywun yn siarad o'r tu ôl i wydr trwchus ac mae synau eraill o gwmpas fi, dw i ddim yn deall dim byd o gwbl. Ond fel arfer mae swyddogion ffiniau yn gofyn yr un pethau, fwy neu lai. Felly dwi'n ceisio rhoi ychydig o atebion, gan obeithio bydd o leiaf un yn cyfateb i'w gwestiwn ei hun:
“I’m going to make an exam of Welsh language, and visit a few places and friends, and staying for ab…”
“Wait, did you say exam of Welsh language?!”
“Yes”
“Dych chi’n siarad Cymraeg? Tipyn bach?”
“Wel…ie, mwy na tipyn bach, rili.” Mae’n troi mas fod e’n dod o Ogledd Cymru ac yn siaradwr rhugl. Yn anffodus mae ein sgwrs hyfryd annysgwyl yn Cymraeg wedi’i thorri’n fyr gan Americanes nerfus iawn sydd newydd gael ei bownsio o’r peiriant gwirio pasbort ei hun, ac angen sylw ar unwaith.
Wrth gerdded at y platfform tuag at yr Eurostar, mae bagiau o sbwriel sy’n dweud: votre réussite commence ici - mae eich llwyddiant yn dechrau yma. Arwydd da ar gyfer fy arholiad a thu hwnt?
A dweud y gwir, dw i ddim yn hollol siwr, ond dw i'n ddiolchgar am y neges.
Erbyn i’r trên gyrraedd St. Pancras - yn wahanol iawn o maes awyr Stansted - dw i dim ond cwpl o funudau i ffwrdd o'r Tiwb fydd yn mynd â fi yn syth i Victoria Coach Station i'r rhan olaf fy ffordd i Gymru. Mae teithio ar drên a choets yn ymlaciol, ond mae wedi bod yn daith hir tabeth. Heno, bydda i jyst bant am gwrw yn gyflym, bach o gerdded i ymestyn fy nghoesau, a wedyn…yn syth i’r gwely. Wythnos brysur iawn o flaen!
Welsh Class
Copyright © 2024 Welsh Class - All Rights Reserved.
Powered by GoDaddy