Website of the Duolingo Welsh Learners Facebook group
Website of the Duolingo Welsh Learners Facebook group
Signed in as:
filler@godaddy.com
Mae “Gateway Express” yn swnio'n cwbl addas ar gyfer fy ngwesty yng Nghasnewydd. Mae'n edrych fel hen wely a brecwast. Ond dim perchnogion, na staff mewn golwg. Ac yn amlwg, dim brecwast. Ro’n i wedi casglu fy ngherdyn allwedd mewn gwesty harddach cyfagos (yn y llun) gyda'r un enw heb ‘express’. Dewisais i hwnna oherwydd ei fod yn rhad ac o fewn pellter cerdded i'r orsaf fysiau . Yn ddigon da am noson dda o gwsg. Ond does dim caffi yn y stryd yma. Felly dwi'n gadael y cerdyn allwedd yn y slot post ac yn mynd yn syth i'r safle bws i Gaerllion, lle bydda i‘n cwrdd â Bluey heddiw. “A phwy yw Bluey?” mae'n debyg eich bod chi’n pendroni. Byddwch chi’n ffeindio mas nes ymlaen.
Cofiwch: mae amserlen bysiau Casnewydd ar Google Maps yn anghywir. Dw i’n gynnar, ond dw i’n gweld fy mws yn gyrru heibio i’r safle ar wib tra fy mod ar fin croesi’r stryd. Sdim ots, mae'r amserlen brintiedig yn dweud bydd un arall mewn tua 10 munud. Dw i’n aros yn hirach na hynny yn y pen draw, ond dw i ar wyliau yng Nghymru, dim ar frys a dw i ddim eisiau treulio fy amser yn cwyno. Ar ôl ychydig o amser dwi'n cyrraedd Caerllion, beth bynnag. Sut i fod yn siŵr dyma’r safle iawn i ymweliad â Dinas y Lleng? Mae barbwyr Rhufeinig! Yn sicr, ar ôl teithio yr holl ffordd o Roma bydden nhw wedi gwerthfawrogi toriad gwallt ac eiliad da, on’d fydden nhw?
O’m rhan i, dw i’n wrth fy modd gweld arwydd siop arall: “Coffiology”. Ie! Coffi! Caffé! Dyw’r bore ddim yn dechrau cyn coffi!
Yn ffodus, mae'n wych, hefyd. Tra bo fi’n cael brecwast yn eistedd ar soffa gyfforddus, dwi'n derbyn neges: mae Bluey yn sownd mewn traffig ar ei ffordd o Harwich a fydd e ddim yma am ginio. Mae cymaint o deisennau Prydeinig clasurol nad wyf erioed wedi rhoi cynnig arnyn eto. Felly, beth am sleisen, ar ôl fy toast?
Pan benderfynais i ymweld â'r safle Rhufeinig hwn, cartref y Legio II Augusta, ro’n i'n meddwl byddai dod o gyn castrum Rhufeinig o'r enw Augusta Taurinorum fy hun yn ddechreuad sgwrs dda. Fodd bynnag, yn yr ysgol do’n i ddim yn hollol frwdfrydig am ddysgu iaith hynafol a gwnes i’r lleiafswm posibl i gael marciau teilwng. Allwn i ddim cynnal sgwrs yn Lladin. A dyw'r dyn ‘ma ddim yn edrych mor gyfeillgar, wedi'r cyfan. Er dywedir bod y bobl leol yn ffyrnig ac yn rhyfelgar, a’u henw yn golygu ’torpido’ yn Eidaleg bydda i‘n rhoi cynnig ar gymdeithasu gyda’r Silwriaid yn lle hynny. Dw i'n sleifio i ffwrdd ac yn anelu at y Thermae.
Wrth y fynedfa, dw i’’n falch iawn o ddod o hyd i siaradwr Cymraeg rhugl cyntaf y daith hon! Nid un o'r Silwriaid yw hi. Mae hi’n dod o ran wahanol o Gymru yn wreiddiol: Sir Gâr. Dw i ‘di bod yno sawl waith ac mae’r Demetae eisoes wedi profi’n groesawgar iawn. Mae hi’n esbonio popeth i mi am y safle a’i hanes, a chan ei fod yn foment dawel, gallwn i sgwrsio am yr iaith Gymraeg hefyd. Wedyn, dwi’n dechrau fy ymweliad. Bydd hi’n dair awr o leiaf cyn i Bluey gyrraedd yma felly mae ddigon o amser gyda fi i ddarllen pob un panel dwyieithog a gwrando ar bob recordiad sain ychwanegol yn Gymraeg. Gyda llaw…dych chi’n gwybod roedd y pwll yma yn fwy na’r ‘Baddon mawr’ Caerfaddon? Do’n i ddim!
Dw i’n symud ymlaen i'r Amgueddfa yn yr adeilad arall. Mae adfeilion Rhufeinig dramor yn eitha siomedig, yn aml: dim ond ychydig o bentwr bach o gerrig mewn lawnt, neu bethau felly. Ond y lle ‘ma wedi gwneud argraff arna i: mae llawer i'w weld, hyd yn oed yn ôl safonau Eidalaidd!
Mae amser cyfarfod disgwyliedig yn weddol fuan, felly dw i’n penderfynu mynd i gwblhau fy ymweliad gyda'r amffitheatr a'r barics. Ond cyn gynted ag y byddai’n cerdded mas o'r Amgueddfa, dyfalwch beth? Dyma Bluey’n dod! Ac, wrth gwrs, dyma Jen yn ei gyrru. Mae hi’n chwifio helo cyn stopio ac aros amdana i yn y maes parcio.
Welsh Class
Copyright © 2024 Welsh Class - All Rights Reserved.
Powered by GoDaddy